GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Iechyd Trawsffiniol a Diwygiadau Amrywiol etc.) (Ymadael â'r UE) 2019 Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 11 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Nac ydynt |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
12 Chwefror |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Dd/B |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 16 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Papur 17 |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Dd/B |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw'n hysbys |
Sylwadau Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i'r Ddeddf.
Bydd y Rheoliadau yn dileu'r hawliau gofal iechyd trawsffiniol sy'n bodoli ar hyn bryd o dan ddeddfwriaeth ddomestig. Ar yr un pryd, byddant yn diogelu cleifion a effeithir gan y cyfnod pontio ac yn caniatáu parhad y trefniadau gofal iechyd trawsffiniol sy'n bodoli gyda'r gwledydd sydd wedi ymrwymo i gytundeb dwyochrog gyda Llywodraeth y DU yn ystod y cyfnod pontio (hyd at 31 Rhagfyr 2020). Maent yn galluogi pobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr i gael mynediad at ofal iechyd trawsffiniol mewn gwledydd "rhestredig". Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cadw rhestr o wledydd sy'n ymrwymo i gytundeb â'r DU at ddibenion parhau â threfniadau gofal iechyd trawsffiniol. Fodd bynnag, mae'r Rheoliadau yn gwahardd mynediad at ofal iechyd mewn gwledydd lle nad oes dwyochredd. Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 14 Chwefror 2019, ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae'r datganiad yn cyfeirio at y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a osodwyd mewn perthynas â diwygio Deddf GIG (Cymru) 2006, ond nid yw'n nodi a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A.10.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'r cam o Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, mae'r Rheoliadau yn codi materion sy'n ymwneud â "phwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu [sy'n codi] materion polisi cyhoeddus sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad", a hynny mewn ffordd a fyddai'n arwain at adroddiad 'rhinweddau' pe bai hwn yn Offeryn Statudol i'w wneud gan Weinidogion Cymru.
Felly, mae'n bosibl y bydd yr Aelodau am drafod a ddylid cyflwyno cynnig cydsyniad, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ei bod yn bwriadu gwneud hynny.
|